Cenhadaeth Ambiwlans sant Ioan Cymru

Cenhadaeth Ambiwlans Sant Ioan Cymru yw achub bywydau a gwella iechyd a lles cymunedau Cymru.

Mae’r prosiect hwn wedi ein galluogi ni i gynyddu ein cyrhaeddiad a’n hymgysylltu â’r holl blant a’r bobl ifanc yr ardal, gan arwain at fwy o blant a phobl ifanc â sgiliau cymorth cyntaf, gan helpu i gadw eu hunain a’u cymunedau’n ddiogel. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn cymunedau gwledig lle gall mynediad at wasanaethau gofal iechyd canolog fod yn heriol. Ochr yn ochr â’n hymgysylltu â phobl ifanc mewn ysgolion, mae’r cyllid hwn hefyd wedi ein galluogi ni i ddarparu sesiynau hyfforddiant cymorth cyntaf am ddim i aelodau o’r gymuned nad oeddent, oherwydd fforddiadwyedd, natur wledig a ffactorau eraill, yn gallu manteisio ar y sesiynau hyn yn flaenorol. Mae'r sesiynau hyn sy’n cael eu cyllido wedi creu mwy o achubwyr bywyd yn y gymuned ac wedi cefnogi rhai unigolion sy’n wynebu’r perygl mwyaf o gael canlyniadau iechyd gwael i ddysgu sgiliau newydd.

Rydyn ni wedi ymgysylltu â 25 o ysgolion yn ardal Gwynt y Môr, gan hyfforddi 2196 o blant a phobl ifanc mewn sgiliau achub bywyd / cymorth cyntaf. Cyflwynwyd 39 o gyrsiau i ysgolion yn yr ardal, gan gynnwys 36 o gyrsiau Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf, 2 gwrs Ymwybyddiaeth AED ac 1 cwrs Cymorth Cyntaf awyr agored.

Rydyn ni wedi cyflwyno 16 o gyrsiau ar gyfer grwpiau difreintiedig, gyda 163 o unigolion yn mynychu. Mae'r cyrsiau sy’n cael eu cyflwyno’n cynnwys 1 cwrs Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf i Blant a babanod, 11 cwrs Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf, a 4 cwrs Ymwybyddiaeth Diffib Mynediad Cyhoeddus. Buom yn gweithio gyda grwpiau fel Gofalwyr Ifanc, Cynnig, CGGC, Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanddulas, NACRO, Stand Gogledd Cymru, a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.

Cyflwynwyd 29 o gyrsiau i oedolion yn y gymuned, gan gynnwys 9 Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf, 15 Ymwybyddiaeth Diffib Mynediad Cyhoeddus, 2 Gwrs Cymorth Cyntaf Argyfwng a Sylfaenol, a 3 chwrs Cymorth Cyntaf Awyr Agored. Fe wnaethom ni hyfforddi 348 o oedolion ar draws y gymuned, o grwpiau oedd yn cynnwys Para Chwaraeon Eira Cymru, Blossom and Bloom, Clybiau Athletau, Clwb Bowlio Llandrillo-yn-Rhos, Merched y Wawr, Sefydliad y Merched, grŵp Merched Tsieineaidd Gogledd Ddwyrain Cymru, Clwb Rotari, grŵp Ffermwyr Ifanc, a Men’s Shed Abergele.

Rydyn ni wedi diogelu 1 swydd drwy gyllid Gwynt y Môr.

Adborth gan gyfranogwyr

Blossom & Bloom - Roedd y grŵp cychwynnol hwn yn grŵp o famau newydd difreintiedig a digartref yn ardal y Rhyl. O ganlyniad i'r hyn rydyn ni wedi'i gynnig, maen nhw wedi cael eu boddi gan geisiadau, felly hoffent gael mwy o gyrsiau i'w mamau.

“Diolch yn fawr iawn am drefnu / cyflwyno’r Cwrs Cymorth Cyntaf Plant a Babanod yn Blossom & Bloom y bore yma. Fe fynychodd 7 o'r 8 mam ac roedden ni’n falch iawn gyda hynny. Fe fwynhaodd pob un ohonyn nhw y cwrs yn fawr ac maen nhw bellach yn teimlo'n fwy hyderus wrth ddelio ag unrhyw argyfyngau meddygol a allai godi gyda'u rhai bach. Yn anffodus dydi mamau ddim yn cael y cyfle i dderbyn yr hyfforddiant yma yn ystod eu beichiogrwydd neu’r blynyddoedd cynnar ac rydyn ni wedi cael ein boddi gan geisiadau am fynychu’r cwrs pan rannwyd y wybodaeth ar ein tudalen Facebook.”

“Dydi’r disgyblion yn y dosbarth yma ddim yn gallu cael mynediad i addysg brif ffrwd a dydi’r rhan fwyaf ddim yn gallu darllen. Fe wnaeth Ryan rannu’r wybodaeth gyda'r disgyblion yn dda. Roedd y disgyblion yn gallu cofio llawer iawn o’r wybodaeth drannoeth pan wnaethon ni wylio Ryan ar newyddion y BBC. Fe wnaeth hyn ddangos iddyn nhw pa mor bwysig ydi cymorth cyntaf a hefyd gwneud iddyn nhw deimlo'n falch o fod wedi gwneud y cwrs yma. Diolch Ryan.” – Ysgol Tir Morfa (Ysgol ADY), Y Rhyl, Tachwedd 2022.

“Fe wnaethon ni i gyd fwynhau’r Cwrs hyfforddi. Mae'r wybodaeth a'r sgiliau yn bwysig iawn i'n bywyd bob dydd ni. Nid dim ond i achub ein bywyd ni ein hunain mae hyn, ond gall hefyd helpu i achub bywydau pobl eraill. Fe hoffem gael mwy o gyrsiau hyfforddi.” – Cymdeithas Merched Tsieineaidd Gogledd Ddwyrain Cymru, Mehefin 2023.

“Gweithdy gwych, hwyliog ond pwysig iawn ac addysgiadol a fwynhawyd yn fawr gan yr holl ddisgyblion. Byddwn yn ei argymell yn fawr!” – Ysgol San Siôr, Abergele, Hydref 2022

“Roedd Mr Cawsey yn hyfforddwr cymwys ac roedd pawb yn gwerthfawrogi ei wasanaeth. Rydw i’n siŵr, os neu pan fydd yn rhaid rhoi’r unedau diffibriliwr ar waith, y bydd y mynychwyr yn eu gweithredu’n hyderus” – Cymdeithas y Preswylwyr, Hen Golwyn, Awst 2022

“Roedd Ryan mor ddifyr a dymunol ac fe wnaeth y sesiynau’n hamddenol ac yn addysgiadol iawn. Yn bendant fe fyddwn ni’n edrych ar wneud rhai sesiynau yn y dyfodol gydag o ar gyfer y bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw!” – Youth Shedz, Bae Colwyn, Mehefin 2023

“Roedd Ryan wedi teilwra’r hyfforddiant yma’n berffaith i’n hoedolion ni sydd ag anghenion ychwanegol a / neu anableddau amrywiol. Fe wnaeth yn siŵr eu bod nhw i gyd yn gallu ymuno ac roedd yn amyneddgar iawn ac yn hawdd siarad ag o. Gwasanaeth ardderchog.” – Stand Gogledd Cymru, Abergele, Mehefin 2023

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397