Clwb Bowlio Llandrillo 

Yn ystod yr Haf yn 2023 derbyniodd Clwb Bowlio Llandrillo ychydig llai na £1,900.00 ar gyfer prynu offer awyrydd lawnt newydd I’r clwb.

Mae mwsog yn her barhaus ar ardal eang o lawnt, yn enwedig lawntiau bowlio, yn yr amodau llaith sydd gennym yng Nghymru, drwy gydol y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Mae'r mwsog yn cael ei drin gan ddefnyddio sylffad fferrus sy'n hanfodol i'w gael dan reolaeth. Ar ôl cael yr awyrydd lawnt, mae hyn yn helpu i gadw'r glaswellt mân yn iachach ac yn atal tyfiant mwsog gan leihau'r angen i ddefnyddio cemegau yn y dyfodol.

Mae aelodaeth y Clwb Bowlio yn cynnwys y rhai sydd yn hoff o weithgaredd cymdeithasol ysgafn a'r rhai sy'n hoffi chwarae'n gystadleuol o fewn amgylchedd tîm, er unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Mae ganddynt Hyfforddwr Bowlio cymwys (lefel 1), sy'n cynnig hyfforddiant i unrhyw aelod newydd o'r Clwb sy'n dechrau fel dechreuwr neu i wella gallu unrhyw aelod presennol a'u dealltwriaeth o'r gêm. Mae cyflwr yr arwyneb chwarae, y cyfleusterau sydd wedi'u datblygu dros yr 21 mlynedd ers agor y grîn yn 2002 a'r polisïau a fabwysiadwyd ar gyfer cydraddoldeb, cynhwysiant a diogelu yn rhoi positifrwydd i bob aelod wrth symud ymlaen.

Ers y cais mae'r clwb bowlio wedi denu 3 aelod newydd a 4 gwirfoddolwr newydd i'r clwb. Mae ganddyn nhw hefyd ddiwrnodau agored wedi'u cynllunio yn ystod Pasg 2024, cadwch olwg am y dyddiadau!

Dywedodd Brian Williams, Ceidwad y Grîn a Llywydd y Clwb:

“Roedd derbyn y grant tuag at brynu awyrwr lawnt wedi darparu offer ychwanegol hanfodol, sy’n bwysig ar gyfer cynnal a chadw’r grîn yn y tymor hir. Mae’r offer yma’n rhywbeth rydyn ni wedi bod ei angen ers tro a bydd gwella arwyneb chwarae’r lawnt fowlio o fudd i bawb sy’n chwarae bowls yn ein clwb”.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397