Astudiaeth Achos Gwirfoddolwr - Carole Sandham, Clwb yr Efail

Fel Gwirfoddolwr yn y Ganolfan Ddydd i’r Henoed, mae Carole yn gweini cinio, yn helpu gyda rhoi pobl i eistedd ac yn gofalu am eu hanghenion.

Dechreuodd gymryd rhan ar ôl cysylltu â Kasia o Dîm Gwirfoddoli CGGC yn Neuadd y Dref Llandudno yn ystod Digwyddiad Pen-blwydd CGGC yn 25 oed, gan ei bod yn dymuno helpu’r gymuned mewn rhyw ffordd. Ar ôl trafodaethau, fe aeth Kasia ati i ddod o hyd i rôl wirfoddoli i Carol lle gallai fod o gwmpas pobl a darparu cefnogaeth i'r rhai mewn angen. I ddechrau, fe roddodd Carole gynnig ar gyfle gwahanol, ond nid oedd yn gwbl addas, felly daeth yn ôl at Kasia ac fe wnaeth hi ei rhoi mewn cysylltiad â Pat a Terry yng Nghlwb yr Efail. Roedd Carol yn ffitio i mewn yno yn syth ac wrth ei bodd gyda pha mor groesawgar oedd pawb, gan ei thywys o gwmpas a gwneud yn siŵr ei bod yn teimlo'n hyderus gyda'i holl dasgau. Daeth yn aelod gwerthfawr o'r tîm yn gyflym iawn!

Mae gwirfoddoli wedi gwneud byd o wahaniaeth i Carole gan ei bod wrth ei bodd yn gwneud hyn, mae'n ei gwneud hi'n hapus ac mae'n gobeithio y bydd ei hymdrechion yn gwneud y bobl sy'n mynychu'r clwb yn hapus hefyd! Mae gwirfoddoli wedi gwneud iddi deimlo'n hapusach ac yn fwy defnyddiol. Mae Carole bellach yn cymysgu â phobl, ac mae hi'n mwynhau eu cwmni.

Ni all Terry o Glwb yr Efail ganmol digon ar Carole: ‘Mae Carole yn ased amhrisiadwy, yn gwneud llawer iawn i helpu i gadw pethau i redeg yn esmwyth yn y clwb.’

I grynhoi mewn un frawddeg, dywedodd Carole, “Mae gwirfoddoli yn gwneud i chi deimlo bod rhywun eich eisiau chi a’ch bod chi’n ddefnyddiol.”

Dywedodd Kasia: “Mae stori Carole yn profi, hyd yn oed os nad yw’r cam cyntaf yn gweithio fel rydych chi eisiau, na ddylech chi gael eich digalonni ac y dylech chi roi cynnig arall arni. Yn CGGC rydyn ni yma i helpu unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan i ddod o hyd i leoliad lle gallant deimlo’n fodlon, beth bynnag yw eu hamgylchiadau a’u cymhellion.”

Os yw stori Carole wedi eich ysbrydoli chi, beth am i chi roi cynnig ar wirfoddoli? Gallwch wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd, a helpu eraill yn eich cymuned.

Cysylltwch â Thîm Gwirfoddoli CGGC i gychwyn ar eich siwrnai yn gwirfoddoli!

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397