Go Local ar Rodfa Penrhyn

Mae Sue wedi bod yn helpu’r bobl yn Llandrillo-yn-rhos sy’n gorfod aros gartref a’i ffrind Rahat yn siop Go Local ar Rodfa Penrhyn. Pan dechreuodd y cyfyngiadau symud, roedd gan Rahat ddigon o fwyd ar gael ond doedd dim cwsmeriaid yn dod i’r siop, ac roedd pobl oedd yn styc gartref yn cael anhawster cael yr archfarchnad i ddosbarthu bwyd iddyn nhw neu, heb ryngrwyd, doedden nhw ddim yn gwybod at bwy i droi am gyflenwadau. Gwirfoddolodd Sue i fod yn yrrwr dosbarthu i Rahat ac aeth ati i greu a dosbarthu 600 o daflenni i bobl leol, gan gynnig gwasanaeth archebu dros y ffôn ac wedyn dosbarthu i’r cartref ar gyfer bwyd a hanfodion.

Picture

Yn ystod y saith wythnos ddiwethaf, mae Sue a merched Go Local (Rahat, Jane, Louise a Sarah) wedi cyflenwi mwy na hanner cant o gartrefi ac mae llawer ohonyn nhw bellach yn gwsmeriaid rheolaidd sy’n dibynnu ar y ffordd syml yma o dderbyn eu nwyddau.

Sue:“Roedd rhaid i mi wneud rhywbeth i helpu yn ystod argyfwng mwyaf ein hoes ni. Roedd hon yn teimlo fel ffordd effeithlon o helpu gydag un o’r problemau brys, cael bwyd i bobl sy’n methu gadael eu cartrefi.”

Rahat: “Heb wasanaeth hysbysebu a dosbarthu Sue, dydw i ddim yn gwybod sut byddai fy siop i wedi ymdopi gyda’r cyfnod yma. Nawr rydyn ni’n brysur yn pacio archebion bob dydd ac mae ein cwsmeriaid ni’n werthfawrogol iawn – rydyn ni wedi gwneud llawer o ffrindiau!”

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397