Datganiad i’r Wasg: Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) yn lansio Loto Lwcus!!
- CGGC mewn partneriaeth â Gatherwell Cyf.* yn lansio Loteri Gymunedol newydd gyffrous
- Cyfleoedd codi arian rhagorol ar gyfer achosion lleol
- Gwobrau ariannol anhygoel hyd at £25,000 i'w hennill bob wythnos
22/01/2021
Mae Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) yn falch iawn o gyhoeddi lansiad Loto Lwcus, menter Loteri Gymunedol gyffrous er budd trigolion ac achosion lleol sir Conwy.
Ein tasg gyntaf yw annog cymaint o achosion lleol â phosib i gofrestru yng Nghonwy er mwyn paratoi ar gyfer gwerthiant y tocynnau ddydd Mawrth Chwefror 23ain Chwefror 2021. Gall achosion gofrestru drwy wefan bwrpasol CGGC ar gyfer Loto Lwcus drwy ddilyn y ddolen ganlynol https://www.cvsclotolwcus.co.uk/good-causes
Mae CGGC yn falch iawn o weld nifer o achosion da’n cofrestru eisoes, yn barod ar gyfer gwerthiant y tocynnau fis nesaf, gan gynnwys Nick Kershaw o Saethyddwyr Colwyn a oedd yn bresennol yn ein Lansiad Rhithwir yr wythnos ddiwethaf:
"Roedd yn gyfarfod gwych a llawn gwybodaeth. Diolch yn fawr, rydyn ni bob amser yn chwilio am gefnogaeth i wneud ein clwb saethyddiaeth yn fwy ac yn well."
Roedd Linda Tavernor o Grŵp Gweithredu Cymunedol Abergele yn bresennol yn ein Lansiad Rhithwir hefyd a dywedodd y canlynol:
"Fe wnes i gofrestru Gweithredu Cymunedol Abergele gyda Loto Lwcus yn syth ar ôl y lansiad. Mae'n gyfle gwych i godi ffrwd reolaidd o gyllid ac roedd y broses gofrestru mor syml hefyd. Bydd yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu at elusennau lleol yn ogystal â chael cyfle i ennill gwobr!"
I'r rhai a fethodd ein Lansiad Rhithwir gallwch ei wylio nawr ar ein sianel YouTube drwy ddilyn y ddolen ganlynol
Dywedodd Wendy Jones (Prif Swyddog yn CGGC);
"Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu lansio'r fenter godi arian anhygoel yma, ar adeg pan mae ymdrechion codi arian wedi cael eu heffeithio oherwydd y Pandemig. Rydyn ni i gyd yn chwilio am ddulliau newydd, diogel a chynaliadwy o godi arian. Bydd hon yn achubiaeth i lawer."
Adnoddau - Cyflwyniad Gatherwell Cyf
Gallwch gael mwy o wybodaeth am Loto Lwcus yn www.cvsclotolwcus.co.uk, drwy ffonio ein llinell gefnogi benodol ar 01492 483015 neu anfon e-bost i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Facebook – www.facebook.com/cvsclotolwcus
Twitter - https://twitter.com/LotoLwcus
*Mae Gatherwell Cyf. yn Gwmni Rheoli Loteri Allanol sydd wedi'i sefydlu'n genedlaethol. Fe'i sefydlwyd yn 2013 a dyfarnwyd teitl "Gweithredwr Loteri y Flwyddyn" iddo yn 2019, teitl y mae’n ei ddal hyd heddiw. Mae Gatherwell wedi cyfrannu mwy na £5m y flwyddyn i achosion da ledled y wlad.