CIC Just Go For It 

Cefnogodd £6,552 o Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr brosiect yn ysgolion Sir y Fflint, a gyflwynwyd gan CIC Just Go For It, sydd wedi helpu i ddatblygu agwedd o ‘allu gwneud’ ymhlith dysgwyr o bob oed. Mae wedi gwella sgiliau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) 250 o ddisgyblion ac wedi helpu i'w hysbrydoli am y dyfodol a chyfleoedd STEM yn y byd gwaith.

Gwelodd pum ysgol gynradd fechan yng Ngogledd Sir y Fflint rieni'n dysgu sgiliau STEM a’u plant yn gweld bod dysgu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn ddefnyddiol ac yn hwyl. Lansiodd y plant rocedi a gwneud cylchedau trydan, gwnaethant fodel o fferm wynt a dysgu am gymarebau. Roedd y rhieni'n mwynhau cydlyniant cymdeithasol clwb coginio gyda'i gynnwys STEM cynhenid. 

"Sesiwn hynod bleserus, roedd pob disgybl yn frwdfrydig yn ystod pob gweithgaredd, ac roedden nhw’n cymryd rhan yn llawn ym mhob rhan o'r gweithdy. Yn ogystal â hyn, mae’r disgyblion wedi sicrhau gwell dealltwriaeth o sut mae peirianneg yn cysylltu â'r byd go iawn. Gweithdy gwych, diolch yn fawr iawn!"

"Gwybodaeth wych a fydd wir yn cyffroi plant ac yn eu hannog i fod eisiau dysgu mwy.  Roedd yr adnoddau'n rhagorol! Rhywbeth na fyddem yn cael cyfle i'w wneud yn yr ysgol"

Penaethiaid, Yr ysgolion oedd yn cymryd rhan

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397