Superkids Gogledd Cymru

Elusen fach yn Sir y Fflint yw Superkids Gogledd Cymru sy’n cefnogi teuluoedd agored i niwed yn ein cymuned. Maen nhw yno i deuluoedd pan fydd arnynt eu hangen fwyaf, boed yn afiechyd terfynol, camddefnyddio sylweddau, trais domestig neu galedi ariannol i enwi dim ond rhai.  

Mae grant gan £25,000 Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr wedi helpu Superkids i sicrhau digon o arian cyfatebol ychwanegol i brynu carafán newydd y mae modd i ddefnyddwyr anabl ei defnyddio ar gyfer eu prosiect gwyliau.

“Mae’r prosiect hwnnw wedi bod yn achubiaeth i mi a’m teulu. Karen ydw i, ac enw fy mhartner yw Gareth, ac mae gennym ni ferch 3 oed o’r enw Cora sy’n dioddef o barlys yr ymennydd - dim ond dechrau symud o gwmpas ar ei phen ei hun mae hi gyda help ei ffrâm gerdded. Y gwyliau yn y garafán oedd un o uchafbwyntiau y flwyddyn.”

Am weddill yr amser mae bywyd yn ymwneud ag apwyntiadau niferus Cora yn yr ysbyty. Yn aml, gall hyn olygu aros oddi cartref pan fyddwn yn teithio i lawr i ysbyty yn y De am lawdriniaeth arbenigol. Gall hyn olygu bod ei brawd, sy’n 6 oed, yn colli allan ar amser efo’r teulu, felly roedd y gwyliau’n hwb enfawr i bawb ac yn gyfle gwych i deimlo’n normal. Roedd gymaint i’w weld a’i wneud ar y safle, roedd rhywbeth newydd a chyffrous bob dydd.

Er bod yn rhaid i ni ailddechrau mynd i apwyntiadau yn yr ysbyty ar ôl dychwelyd adref, roedd y seibiant byr yn eithriadol o therapiwtig ar gyfer y teulu cyfan. Yr hyn oedd yn braf gweld oedd bod gan frawd Cora gymaint i’w ddweud wrth ei athro ar ôl dychwelyd i’r ysgol - fel arfer mae’n llawer iawn fwy tawel, ac yn aml yn teimlo’n fel petai'n cael ei lethu.”

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397