Cyfleoedd Gwirfoddolwr

Gwirfoddolwyr Gweinyddu Dros y Ffôn

Mae Vision Support yn elusen ranbarthol sy'n darparu cymorth a gwasanaethau lleol yn y gymuned. Mae'r sefydliad yn cefnogi pobl â nam ar eu golwg ac yn codi ymwybyddiaeth o'u hanghenion. Maent yn chwilio am Wirfoddolwyr Gweinyddu Dros y Ffôn i gynyddu eu hymgysylltiad â’u defnyddwyr gwasanaethau drwy eu hatgoffa am grŵp neu weithgaredd sydd ar y gweill. Mae tasgau rheolaidd yn cynnwys: cyflwyno galwadau atgoffa i ddefnyddwyr gwasanaeth yn rheolaidd, cysylltu ag aelodau staff, ffonio gwahanol randdeiliaid i roi gwybod iddynt am wybodaeth bwysig. Mae angen sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ar gyfer y rôl hon. Byddwch yn cael hyfforddiant llawn ym mhob agwedd ar y sefydliad. Bydd costau teithio / mân dreuliau yn cael eu had-dalu.


Gwirfoddolwyr Cyfeillio Dros y Ffôn

Mae Vision Support hefyd yn chwilio am Wirfoddolwyr Cyfeillio Dros y Ffôn ar gyfer y prosiect Let's Talk, i sgwrsio ar y ffôn â phobl a allai fod yn gaeth i'r tŷ neu sy'n byw ar eu pennau eu hunain a sicrhau eu bod yn derbyn unrhyw wasanaethau eraill y gallai fod eu hangen arnynt. Fel Gwirfoddolwr Let’s Talk, byddwch yn ffonio'r defnyddiwr/defnyddwyr gwasanaeth yn rheolaidd ar ddiwrnod ac amser y cytunwyd arno, yn glust i wrando ac yn darparu cymorth emosiynol lle bo angen gan nodi unrhyw anghenion pellach sydd ganddynt a chyda'u caniatâd, trosglwyddo'r wybodaeth hon i'w Gweithiwr Datblygu Cymunedol penodol. Mae'n gyfle gwirioneddol i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl sydd wedi colli eu golwg yn y gymuned. Darperir hyfforddiant llawn.


Lysgenhadon Cymunedol Gwirfoddol

Kidney Reasearch UK yw'r brif elusen genedlaethol ym maes ymchwil i'r arennau a'u cenhadaeth frys yw dod â chlefyd yr arennau i ben, gan gynnig gobaith i gleifion yr arennau a'u teuluoedd ar gyfer y dyfodol. Ond ni allant wneud hynny heb eich help chi! Maent yn chwilio am Lysgenhadon Cymunedol Gwirfoddol newydd sy'n helpu i ledaenu'r gair am yr holl waith anhygoel y mae eu tîm yn ei wneud yn brwydro i roi terfyn ar glefyd yr arennau am byth. Maent yn chwilio am bobl sy'n angerddol am Kidney Research UK, ac sydd am eu helpu i fynd allan i'n cymunedau lleol i annog eraill i'w cefnogi nhw a'u gwaith.

Yn ogystal â chwarae eich rhan i helpu i frwydro yn erbyn clefyd yr arennau, byddwch hefyd yn gwneud y canlynol:

  • Datblygu eich sgiliau cyfathrebu ac arwain
  • Meithrin profiad gwirfoddoli i'w roi ar eich CV
  • Dysgu am ymchwil cyfredol
  • Cael crys-t a bathodyn pin Kidney Research UK

Hyrwyddwyr Digidol Gwirfoddol 

Mae Creu Menter eisiau cefnogi tenantiaid Cartrefi Conwy i leihau eithrio ac ynysu digidol trwy fenthyg dyfais dabled wedi'i galluogi ar gyfer y rhyngrwyd i denantiaid sydd ar hyn o bryd heb sgiliau ac offer digidol am 3 mis. Maent yn chwilio am Hyrwyddwyr Digidol Gwirfoddol i ddarparu cefnogaeth un i un bwrpasol reolaidd dros y ffôn i bobl sydd heb fod ar y rhyngrwyd erioed o'r blaen efallai. Bydd hyfforddiant Hyrwyddwr Digidol yn cael ei ddarparu gan Gymunedau Digidol Cymru a byddwch yn cael hyfforddiant llawn ar bob agwedd ar y rôl. Mae'r rôl hon yn addas os ydych chi'n hyderus yn y defnydd o gyfrifiaduron, gliniaduron, dyfeisiau tabled, ffonau clyfar, chwilio drwy'r rhyngrwyd, defnyddio e-byst ac yn gallu egluro technoleg mewn ffordd syml, glir.


Caffi Trwsio Gwirfoddol

Mae caffis trwsio yn grymuso cymdeithasau i weithio gyda'i gilydd i leihau gwastraff, rhannu sgiliau, a chryfhau ein cymunedau. Eu nod yw atal eitemau rhag mynd i safleoedd tirlenwi drwy eu trwsio, rhoi pwrpas newydd iddynt, eu huwchgylchu neu eu hailgylchu, lleihau faint o ddeunyddiau crai a'r ynni sydd eu hangen i greu cynhyrchion newydd, gan dorri allyriadau CO2 o ganlyniad. Maent yn credu bod gan bob unigolyn gyfres anhygoel o sgiliau y gellir eu defnyddio mewn caffi trwsio. O gyfleoedd trwsio i swyddi gweinyddol, rheoli a recriwtio, a hyd yn oed data a thechnoleg. Beth bynnag yw eich arbenigedd, mae ganddyn nhw le i chi.

Fel gwirfoddolwr mewn caffi trwsio, cewch gyfle i chwarae rhan weithredol yn adferiad gwyrdd eich ardal leol, gan hefyd ddod yn aelod gwerthfawr o dîm ehangach, ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i greu byd glanach, mwy cynaliadwy, a darparu amgylcheddau cynhwysol, diogel i bobl o bob oed rannu gwybodaeth, sgiliau, ac i gysylltu'n gyffredinol.


Youth Shedz Gwirfoddol

Mae Cymdeithas Chwaraeon Llysfaen yn gweithio mewn partneriaeth â Youth Shedz i ddatblygu lle diogel i bobl ifanc, i wneud yr hyn y maent am ei wneud drostynt eu hunain a'u cymuned - ac mae angen gwirfoddolwyr arnynt i'w cefnogi yn ystod y sesiynau. Os ydych chi'n teimlo'n angerddol am bobl ifanc, ac yn gwybod ychydig am waith llaw a DIY, yn gwneud unrhyw beth o baentio i gynnal a chadw beiciau, neu'n gallu rhoi help llaw i ddatblygu'r lle diogel yma i bobl ifanc yn Llysfaen, dyma gyfle delfrydol i chi! Fel Gwirfoddolwr, rhaid i chi fod yn gwbl ymrwymedig i genhadaeth a gwerthoedd craidd Youth Shedz. Rhaid i chi fod yn gydymdeimladol a mwynhau cyfarfod pobl ifanc a rhyngweithio â nhw. Byddai profiad o wirfoddoli gyda phobl ifanc "anodd eu cyrraedd" yn fanteisiol iawn.


Gynorthwywyr Hwb Cymunedol Gwirfoddol

Yn cael ei reoli gan Cais, mae The Troop Café yn Llandudno yn ganolbwynt cymunedol i gyn-filwyr sy’n cynnig gofod pwrpasol i aelodau’r gymuned cyn-wasanaethu. Ar hyn o bryd maent yn chwilio am Gynorthwywyr Hwb Cymunedol Gwirfoddol. Mae angen i’r gwirfoddolwyr fod â sgiliau cyfathrebu da, gallu gwneud i bobl deimlo’n gartrefol a bod yn wrandäwyr gwych. Yn y rôl hon byddech yn croesawu pobl i'r caffi, yn gweini diodydd a bwyd yn ardal y caffi a hefyd yn cefnogi eu mentoriaid drwy helpu gyda gweithgareddau. Mae angen i chi fod yn gyfforddus yn rhyngweithio â phobl o bob cefndir a bod â dealltwriaeth dda o bwysigrwydd cyfrinachedd. Bydd costau teithio’n cael eu had-dalu.


Cymraeg eu hiaith gwirfoddol

Mae Cymdeithas Tinitws Prydain yn elusen annibynnol sy’n cefnogi miloedd o bobl sy’n profi tinitws. Mae wedi bod yn cynnal grwpiau cefnogi ar-lein ers mis Ebrill 2020 a hoffai ehangu ei chefnogaeth drwy ddechrau grŵp Cymraeg newydd. Felly, mae’n chwilio am wirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith i helpu i redeg y grŵp. Bydd y rôl hon fel gwirfoddolwr grŵp cefnogi ar-lein yn darparu cefnogaeth dechnegol a gweinyddol i’r grŵp, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • • Dechrau’r cyfarfodydd Zoom
  • • Cofnodi presenoldeb
  • • Gwneud nodiadau yn y cyfarfodydd i’w dosbarthu wedyn
  • • Darparu cefnogaeth i hwylusydd y grŵp neu gydhwyluso os ydych yn dymuno
  • • Sicrhau bod polisïau BTA, yn enwedig o ran diogelu a chyfrinachedd, yn cael eu cynnal.

Bydd hyfforddiant, yn ôl yr angen, yn cael ei ddarparu ac anogir cyfranogiad pellach gyda'r elusen.


Arweinwyr Sgowtiaid

Mae ScoutsCymru yn cynnig hwyl, cyfeillgarwch ac antur sy’n newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru. Dim ond timau dawnus o wirfoddolwyr lleol sy'n gwneud hyn yn bosibl. Mae grwpiau ym Mae Colwyn, Llandudno ac Abergele yn chwilio am Arweinwyr Sgowtiaid. Os ydych chi eisiau rhoi cyfle i bobl ifanc 10 i 14 oed brofi antur sy'n newid eu bywydau a'u cefnogi i wneud penderfyniadau, cymryd yr awenau a datblygu annibyniaeth, hyder a sgiliau, gall hwn fod yn gyfle i chi. Gan weithio fel rhan o dîm o oedolion sy’n gwirfoddoli, mae Arweinwyr Sgowtiaid yn cynorthwyo i gynllunio a chyflwyno rhaglen ddiogel a chyffrous o weithgareddau awyr agored, prosiectau cymunedol, gemau, heriau, gwersylloedd a thripiau rhyngwladol hyd yn oed! Byddwch yn dysgu sgiliau newydd drwy gynllun hyfforddi arobryn sy'n cwmpasu popeth o gymorth cyntaf i ddelio ag ymddygiad heriol. Does dim angen i chi fod wedi cael profiad blaenorol o weithio ochr yn ochr â phobl ifanc na bod wedi bod yn Sgowt eich hun. Mae angen i arweinwyr fod yn 18 oed o leiaf, yn frwdfrydig ac yn drefnus. Byddwch yn derbyn yr holl hyfforddiant, cefnogaeth a mentora fydd arnoch eu hangen.


Gofal a Chefnogaeth 
Gwirfoddolwyr

Mae Cymru Versus Arthritis yn bodoli i sicrhau bod pobl ag arthritis yng Nghymru yn cael y gefnogaeth a'r wybodaeth sydd arnynt eu hangen i fyw yn dda gyda'u cyflwr. Mae eisiau recriwtio Gwirfoddolwyr Gofal a Chefnogaeth yn Sir Conwy. Byddai'r rôl hon yn helpu i alluogi pobl ag arthritis i gael cymorth drwy fynychu Canolfannau Gwybodaeth, digwyddiadau cymunedol, cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol a darparu cefnogaeth un i un gychwynnol. Byddwch yn cyfrannu at gynyddu hyder pobl ag arthritis i reoli eu cyflwr, gan wella eu hiechyd a'u lles. Bydd y mathau o ddyletswyddau yn cynnwys derbyn ymholiadau a darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad, codi ymwybyddiaeth o wasanaethau a gweithgareddau a chyfeirio at gyhoeddiadau / deunyddiau priodol. Dylech fod yn ofalgar ac yn gydymdeimladol tuag at bobl o bob cefndir, bod â sgiliau gwrando a chyfathrebu da a bod yn hyderus ac yn gadarnhaol. Mae brwdfrydedd a pharodrwydd i gymryd rhan mewn hyfforddiant a dysgu yn hollbwysig. Rhoddir hyfforddiant sy'n berthnasol i'r rôl. Bydd treuliau yn cael eu talu ar gyfer hawliadau rhesymol am gostau teithio a chynhaliaeth.


Panel Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid

Mae Tîm Gwirfoddoli CGGC yn chwilio am bobl ifanc newydd rhwng 14 a 25 oed i wirfoddoli a dod yn aelodau o'n Panel Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid, fel y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer gweinyddu'r grant yma. Allwch chi wneud hyn? Oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu cyfleoedd gwirfoddoli i ieuenctid yn eich cymuned leol? Does dim angen unrhyw gymwysterau arnoch chi, dim ond diddordeb mewn sicrhau bod prosiectau'n diwallu anghenion lleol, gallu bod yn rhan o dîm, bod â sgiliau cyfathrebu da, a'r gallu i wneud penderfyniadau cadarn. Mae ein Panel fel arfer yn cyfarfod tua 3 gwaith y flwyddyn i wneud penderfyniadau, ond ar hyn o bryd mae’r cyfarfodydd yn rhithwir dros Zoom. Pan fydd y cyfyngiadau'n caniatáu, efallai y byddwch hefyd eisiau ymweld â'r prosiectau sy’n cael eu cyllido ar ein rhan a chynnal cyfweliadau/ysgrifennu astudiaethau achos neu flogiau.


Gwirfoddolwyr Amgueddfeydd

Amgueddfa Syr Henry Jones, Llangernyw yw cartref plentyndod Syr Henry Jones (1852 - 1922) a ddaeth, wedi dechrau cymharol ddi-nod, yn Athro Athroniaeth Foesol nodedig ym Mhrifysgol Glasgow ac yn ddylanwad mawr ar y system addysg yng Nghymru. Maent yn chwilio am Wirfoddolwyr Amgueddfa i ymuno â'u tîm. Mae hwn yn gyfle gwych i bobl sydd â diddordeb mewn hanes, diwylliant, neu a hoffai fod yn rhan o fenter gymunedol go iawn. Mae cyfleoedd i ddefnyddio'ch sgiliau a'ch diddordebau mewn sawl ffordd, gan gynnwys: helpu i gynnal a chadw'r adeilad a'r tiroedd; cynnal a chadw'r ardd Fictoraidd; marchnata a hyrwyddo'r amgueddfa i wahanol gynulleidfaoedd trwy wahanol lwyfannau; casglu deunydd ar gyfer ein harddangosfeydd; croesawu ymwelwyr. Byddai unrhyw hyfforddiant / arweiniad sydd ei angen yn cael ei ddarparu.


Gyfeillion Ffôn

 Mae gan aelodau Deafblind UK golled golwg a chlyw cyfun ac mae llawer yn byw ar eu pen eu hunain gydag ychydig o deulu a ffrindiau o'u cwmpas. Allech chi helpu i gefnogi’r aelodau a hoffai gadw mewn cysylltiad dros y ffôn a chael galwad wythnosol gan wirfoddolwr cyfeillgar? Ar hyn o bryd mae Deafblind UK yn chwilio am Gyfeillion Ffôn Cymraeg a Saesneg. Maent yn chwilio am unigolion hyderus, siaradus a chyfeillgar sy'n gallu cynnal sgwrs dda gydag aelod dros y ffôn. Gallwch gymryd rhan yn y cyfle hwn o unrhyw le. Byddwch yn cael hyfforddiant ar-lein, pwynt cyswllt penodol yn Deafblind UK, cefnogaeth barhaus, cyfarfodydd gwirfoddolwyr ar-lein a'r cyfle i ymuno â thîm gwych o wirfoddolwyr! Mae'r rôl hon yn gofyn am ymrwymiad amser rheolaidd, bob wythnos fel arfer, ac mae ar gael i unigolion dros 18 oed.


Gynorthwy-ydd Gweinyddol Gwirfoddol

Mae NWAMI yn sefydliad sydd wedi ymrwymo i leihau troseddau casineb drwy gyfnewid a dysgu diwylliannol, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o amrywiaeth ddiwylliannol. Mae’n chwilio am Gynorthwy-ydd Gweinyddol Gwirfoddol i helpu gyda thasgau bob dydd fel ffeilio, cadw cyfrifon, ateb galwadau ffôn sy'n dod i mewn, a chadw'r swyddfa'n daclus ac ati. Mae sgiliau TG sylfaenol yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. O ran unrhyw gyfyngiadau Covid, gellir cyflawni'r rôl o gartref yn ogystal ag yn swyddfa NWAMI. Rhoddir hyfforddiant cynefino a byddwch yn cael cymorth ac arweiniad ar hyd y ffordd, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi allanol amrywiol. Gellir ad-dalu treuliau os bydd hynny'n briodol.


Car y Llan Gyrrwr Cludiant Cymunedol

Fe fyddwn ni wedi ein lleoli ym Meddygfa Betws-y-Coed a Meddygfa Cerrigydrudion lle bydd y cerbyd yn cael ei rannu a’i ddefnyddio fel darpariaeth i bobl fregus sydd eisoes yn methu trefnu cludiant i fynd i’w hapwyntiadau gyda’u meddyg teulu. 

Betws- Dydd Mawrth a Dydd Mercher

Cerrigydrudion- Dydd Iau a Dydd Gwener

Rydyn ni angen gyrwyr gwirfoddol i’n helpu ni ar ein siwrnai gyffrous. Mae angen Gyrwyr Gwirfoddol arnom hefyd i gludo'r cerbyd o Fetws i Gerrig ac yn ôl yn ystod yr wythnos.    

Ar ôl sefydlu’r apwyntiadau gyda meddyg teulu, gellid defnyddio’r cerbyd ar gyfer rhoi sylw i anghenion “llesiant” eraill gan ddibynnu ar argaeledd y cerbyd a’r gyrwyr gwirfoddol.


Gweld rhywbeth y byddech yn ei fwynhau?

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397