GWIRFODDOLI IEUENCTID

Cymryd rhan!

Mae gwirfoddoli'n ymwneud â gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned, a bod yn rhan bwysig ohoni. Ond mae hefyd yn ymwneud â'r hyn y gallwch chi ei gael o'r profiad.

Mae pobl ifanc yn gwirfoddoli am wahanol resymau:

  • Cyfarfod ffrindiau newydd
  • Dysgu sgiliau newydd neu ddatblygu / cynnal y rhai sy'n bodoli eisoes
  • Magu hyder
  • Ennill profiad a chynyddu cyflogadwyedd
  • Teimlo'r cyffro sydd i’w gael o helpu eraill

Nid dim ond cwblhau’r dasg yw’r nod, yn aml mae’n cynnwys llawer o hwyl hefyd!  

Rydyn ni’n sicrhau bod cyfleoedd o safon uchel ar gael, fel eich bod chi, fel gwirfoddolwr ifanc, yn cael y gorau o’ch profiad!

Rydym Angen Aelodau I Banel Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid

Mae CGGC am recriwtio pobl ifanc i wirfoddoli a dod yn rhan o'i banel grantiau a arweinir gan bobl ifanc. Mae bod yn Aelod Panel yn gyfle gwych i, ddatblygu eich sgiliau ymhellach, gwella eich CV, cyfarfod â phobl newydd, cynyddu eich hyder, gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau yng Nghonwy a chael hwyl!
GWNEUD CAIS YMA

Cais Aelod o banel Dan Arweiniad Ieuenctid CVSC

Grantiau Dan Arweiniad Pobl Ifanc 2023-24

Nod y cynllun Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid yw cefnogi prosiectau bach dan arweiniad ieuenctid ledled sir Conwy, gan alluogi pobl ifanc i chwarae rôl weithredol yn eu cymunedau a chynnwys / recriwtio pobl ifanc i gymryd rhan mewn prosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli.

Gwyliwch ein fideos ni am fwy o syniadau ac ysbrydoliaeth. Cliciwch ar un o’r tri fideo y byddech yn hoffi ei wylio.

Ydych chi’n sefydliad sydd eisiau cynnwys pobl ifanc?

Gall pobl ifanc gynnig llawer o dalentau, sgiliau ac egni i’ch sefydliad. Gallwn roi cefnogaeth ac arweiniad i chi ar y ffordd orau o weithio gyda phobl ifanc fel gwirfoddolwyr, a’u cadw.

Gellir gwneud cyflwyniadau anffurfiol (rhithwir i gyd ar hyn o bryd) i Ysgolion, Clybiau Ieuenctid, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Colegau, Gyrfa Cymru ac unrhyw sefydliadau ieuenctid a fyddai’n hoffi cael mwy o wybodaeth am Ieuenctid yn Gwirfoddoli.

Mae gennym adnoddau defnyddiol ar eich cyfer chi:

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397