PRESGRIPSIYNU CYMDEITHASOL

Mae presgripsiynu cymdeithasol wedi’i ddylunio i roi cymorth i bobl ag amrywiaeth eang o anghenion cymdeithasol, emosiynol neu ymarferol ac mae llawer o gynlluniau’n canolbwyntio ar wella iechyd meddwl a lles corfforol. Ymysg y rhai a allai elwa ar gynlluniau presgripsiynu cymdeithasol mae pobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn neu hirdymor, pobl ag anghenion cymhleth, pobl sy’n gymdeithasol ynysig, a phobl â mwy nag un cyflwr hirdymor sy’n cael gofal iechyd sylfaenol neu eilaidd yn aml. Mae cynlluniau presgripsiynu cymdeithasol yn gallu cynnwys amrywiaeth o weithgareddau sy’n cael eu darparu gan sefydliadau yn y sector gwirfoddol a chymunedol fel rheol. Ymysg yr enghreifftiau mae gwirfoddoli, gweithgareddau celf, dysgu mewn grŵp, garddio, cyfeillio, coginio, cyngor ar fwyta’n iach, ac amrywiaeth o chwaraeon. 

(Ffynhonnell – King’s Fund; What is Social Prescribing?)

Os ydych chi’n ceisio cymorth lleol gan sefydliad neu grŵp yn y sector gwirfoddol:

Mae sector gwirfoddol Conwy yn enfawr – mae tua 3,200 o grwpiau a sefydliadau’n gweithredu yn y sir. Mae llawer ohonynt, neu’r mwyafrif hyd yn oed, yn gallu cynnig ymateb i broblemau iechyd a lles, o elusennau sy’n canolbwyntio ar gyflyrau meddygol i grwpiau sy’n canolbwyntio ar y gymuned leol, wedi’u sefydlu i roi cymorth i anghenion a nodir yn eu maes gweithredu.

Ceir cydnabyddiaeth eang bod dod o hyd i elusen, grŵp neu wasanaeth cymorth priodol yn gallu bod yn heriol dros ben ac felly mae cymorth penodol wedi cael ei sefydlu i helpu i roi syniad clir o’r sector.

Gwasanaeth Llywio Cymunedol Gorllewin Conwy

Gwasanaeth llywio lleol wedi’i sefydlu gan Glwstwr Gorllewin Conwy. Mae’n cynnwys y 12 practis meddyg teulu yng nghymunedau Bae Penrhyn, Llandudno, Llanfairfechan, Conwy, Llanrwst, Betws-y-Coed a Cherrigydrudion. Gallwch chi gael gafael ar y gwasanaeth hwn drwy eich meddygfa neu’n uniongyrchol yn y ffyrdd canlynol:

Ffôn: 01492 817121

E-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Hwb Cymorth Cymunedol CGGC

Mae Hyb Cymorth Cymunedol CGGC yn gam cadarnhaol ac arwyddocaol i sicrhau bod trigolion Conwy yn cael mynediad ystyrlon i wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth ymarferol gan ddarparwyr dibynadwy ledled yr ardal.

Bydd staff hyfforddedig a gwybodus CGGC wrth law i gefnogi preswylwyr sy’n dymuno cael gwybodaeth a chymorth ar ystod o faterion sy’n effeithio ar eu lles.

Yma yn CGGC, rydym yn cydnabod y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wybodaeth a chymorth, felly nid yw hwn yn wasanaeth cyfeirio arall eto - rydym yma i helpu. Dim ond un alwad i’n gwasanaeth ffôn pwrpasol sydd ei angen, i ddarganfod yr ystod lawn o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth a gynigir gan y sector gwirfoddol a chymunedol a sut y gall fod o fudd i’ch lles eich hun.

Dyma ddolenni i ambell ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol:-

https://infoengine.cymru/ – cyfeiriadur cenedlaethol o wasanaethau wedi’i greu gan y sector gwirfoddol ar gyfer y sector gwirfoddol.

https://www.dewis.cymru/  – cyfeiriadur o wasanaethau wedi’i weithredu gan Uned Ddata Llywodraeth Leol – Cymru (Data Cymru) ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397