Cartrefi Conwy
Dyfarnwyd cyllid i Cartrefi Conwy gan Fferm Wynt Gwynt y Môr yn 2019 i gyflwyno nifer o sesiynau i weithio gyda’r rhai a oedd yn cael anhawster mawr gydag Iechyd Meddwl ac yn enwedig y rhai sydd wedi dioddef o ACE (Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod).
Fel rhan o'r cyllid cynhaliodd Cartrefi Conwy 8 sesiwn o Iachau Chakra gyda 3 grŵp o 4 o bobl.
Dyma'r adborth o'r sesiynau hyn.
“Roedd y sesiynau’n hyfryd, yn fy helpu i gysylltu â’r ddaear a dod o hyd i fy ngofod heddychlon, cael gwared ar egni negyddol a llenwi fy hun â meddyliau cadarnhaol. Fe wnaeth y sesiynau fy helpu i ddysgu hunanymwybyddiaeth a hunan-gariad”
“Sesiynau defnyddiol iawn, trueni nad oes posib dal ati i’w cynnal”
“Diolch, Kate a Lydia, am wneud y rhain yn bosib. Wedi mwynhau pob munud. Byddaf yn ceisio dilyn popeth rydw i wedi'i ddysgu"
“Hawdd iawn eu dilyn, mwy o’r un peth. Rydw i mor ddiolchgar am yr holl help rydw i wedi’i gael. Fe wnes i ddod o hyd i heddwch.
“Amheus ar y dechrau a dweud na allwn i fyfyrio ond roedd yn rhagorol ac fe gefais i lawer ohono. Gwych cael sesiynau y tu allan, wedi'u trefnu'n dda, clywed ychydig yn anodd gyda’r sŵn. Roedd Kate yn wych, wedi dysgu llawer a chael gwybodaeth wych amdanaf i fy hun”
“Roeddwn i'n teimlo'n ffodus iawn o fod wedi mynychu rhywbeth mor gariadus oedd yn rhoi gymaint, fe fyddai sesiwn bach yn y dyfodol yn dda. Roedd yr iachau gan Kate yn dda iawn, llais tawel hyfryd”
“Defnyddiol iawn, mae Kate wedi fy helpu i’n aruthrol, mae hi’n gymwynasgar ac yn llawn gwybodaeth”
“Sesiynau Ardderchog. Yn newid bywyd. Profiad hyfryd, gyda llawer o awgrymiadau y gallaf fynd adref gyda mi. Roeddwn i wrth fy modd gyda'r drymio. Fe wnes i fwynhau'r rhain yn fawr iawn ac maen nhw wedi fy helpu i'n aruthrol. Fe fyddwn i wrth fy modd yn cael mwy o’r un peth”
“Wedi dysgu cymaint amdanaf i fy hun. Fe fyddwn yn hoffi mwy o'r un peth"
Isod mae rhai ystadegau am sut mae’r cyllid wedi bod o fudd hyd yma (Gwybodaeth a gasglwyd ym mis Rhagfyr 2021)
|
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG