Clwb Rygbi Bae Colwyn

Mae gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr (GYM) gysylltiad cryf â Chlwb Rygbi Bae Colwyn ar ôl cefnogi dau brosiect gwahanol yn y clwb yn ddiweddar. Fe wnaeth y cyntaf, sef menter bartneriaeth rhwng Undeb Rygbi Cymru, y clwb a GYM, helpu’r Seahorses i gyflawni ymgyrch gyllido tymor hir i osod llifoleuadau LED ar eu cae yn Brookfield Drive. Mae’r goleuadau diweddaraf hyn nid yn unig yn helpu’r clwb i leihau ei filiau ynni ond hefyd yn lleihau ei ôl troed carbon. Mae wedi gwella’r cyfleusterau hyfforddi gyda'r nos yn ystod misoedd y gaeaf a hefyd wedi cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer gemau gyda llifoleuadau gyda'r nos.

Yn fwy diweddar mae'r clwb wedi ymrwymo i wella ei gyfleusterau oddi ar y cae. Un rhan o'r datblygiad graddol hwn yw ailgynllunio a gosod cegin fasnachol a nwyddau gwyn yn eu lle. Mae Gwynt y Môr yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi’r elfen hon. Y canlyniad yw galluogi'r clwb i ddarparu'n well ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau allanol, darparu prydau ar ôl gêm ar gyfer y chwaraewyr a hefyd creu llif refeniw ychwanegol y mae ei wir angen yn dilyn pandemig Covid.

Ym mis Mai 2022, croesawodd y clwb Rownd Derfynol Cwpan a Bowlen Hŷn Gogledd Cymru. Denodd y tywydd braf y torfeydd mwyaf erioed gyda’r timau yn y rownd derfynol, Yr Wyddgrug, Teirw Nant Conwy, Pwllheli a Chlwb Rygbi Nant Conwy, yn derbyn cefnogaeth wych. Llongyfarchiadau i’r holl glybiau ar gyrraedd y rownd derfynol ac i Glwb Rygbi Nant Conwy am gwblhau’r dwbl.

Lleoliad gwych ar gyfer diwrnod ardderchog o chwaraeon gyda Bae Colwyn yn cynnal ac yn cynhyrchu refeniw y mae ei wir angen.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397