Alabare

Cefnogodd Gwynt-y-Môr Alabre i brynu uned arlwyo symudol, sef Cegin Faes. Nod y Gegin Faes, uned arlwyo symudol, yw darparu bwyd stryd gwych i gymunedau Conwy a hefyd darparu amgylchedd diogel a chefnogol i gyn Bersonél y Lluoedd Arfog sydd wedi bod yn ddigartref ac sydd bellach mewn tai â chymorth, lle i ailsgilio, hyfforddi a dychwelyd i gyflogaeth.

Ers mis Mai 2022, mae Alabre wedi ymgysylltu â 7 o'u cyn-filwyr fel gwirfoddolwyr. Hyd yma, 5 fel cynorthwywyr coginio a 2 fel cynorthwywyr cyffredinol yn helpu i sefydlu'r Gegin. Drwy gydol datblygiad y Gegin Faes, bu’n her ymgysylltu â rhai cyn-filwyr, gan fod llawer yn gysylltiedig â’u hamgylchiadau eu hunain ar ôl covid. Effeithiodd y pandemig yn sylweddol ar lawer, o effeithio ar hunanhyder, iechyd meddwl, brwydro i ymgysylltu â’r gymdeithas ehangach ac mewn rhai achosion, eu PTSD yn dirywio.

Fodd bynnag, cafodd y rhai a gymerodd ran fudd mawr o fod yn rhan o’r “Gegin Faes”. Roedd bod yn rhan o'r tîm coginio a chynorthwyo yn creu ymdeimlad o undod. Ymgysylltodd un unigolyn fel rhan o’i lwybr gofal tuag at fyw yn annibynnol a gweithiodd gyda’r Gegin Faes yn paratoi pizzas. Creodd hyn strwythur a threfn arferol yn y gweithle, helpodd i ddatblygu ei CV a'i raglen dychwelyd i'r gwaith a thrwy hynny leihau tlodi ac anghydraddoldeb. Wedi hynny, sicrhaodd yr unigolyn hwn gyflogaeth gyda'r fferm wynt. Mae hyn ynddo’i hun yn hyrwyddo “cymunedau cadarnach yng Ngogledd Cymru, gan greu twf economaidd ac yn cadw o fewn y gymuned y gyfres o sgiliau a ddysgwyd oddi mewn iddi”.

“Ychydig fisoedd yn ôl roeddwn i’n ddigartref yn y Rhyl, nawr rydw i gyda Homes For Veterans ac yn teimlo’n sefydlog iawn, ac rydw i wedi ymwneud â thîm da iawn arall – Y Gegin Faes. Pobl wych sydd wedi bod yn help mawr gyda chefnogaeth. Mae wedi fy helpu i mewn sawl ffordd, a'r prif ffactor oedd y teimlad da o helpu elusen dda iawn ac rydw i'n gobeithio parhau i ymwneud â nhw yn y dyfodol."

Mae Gwynt-y-Môr ac RWE yn falch iawn o fod wedi bod yn rhan o’r prosiect ac yn edrych ymlaen at y bennod nesaf yn stori’r Gegin Faes.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397