Digwyddiad Dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr 2022

Croesawyd cynrychiolwyr o 15 o sefydliadau gennym i’n digwyddiad Dathlu Gwirfoddolwyr wyneb yn wyneb cyntaf ar 7fed Mehefin yng Nghanolfan y Drindod, Llandudno, i gydnabod y cyfraniadau gwerthfawr a wneir gan ein gwirfoddolwyr anhygoel! Daeth y digwyddiad hwn â dathliadau'r Wythnos Gwirfoddolwyr genedlaethol i ben – penllanw ein hymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol a lansiad y Grantiau dan Arweiniad Pobl Ifanc ar y Diwrnod Ffocws Ieuenctid dydd Llun.

Hyfryd oedd cael clywed am yr holl wirfoddoli tra gwahanol sy'n digwydd, cyfarfod pawb a chael sgwrs hirddisgwyliedig dros de a chacen hyfryd!

Croesawodd Mary Trinder, y Cadeirydd, bawb a dywedodd “amser i ddiolch i’n holl wirfoddolwyr gwych ni sydd, drwy eu cyfraniadau, yn gwneud ein bywydau a’n cymunedau ni gymaint yn well!”

Mary Trinder, y Cadeirydd, gyda Carol Marubbi, Maer Tref Llandudno, a chadeirydd lleoliad Canolfan y Drindod 

Dyma ddetholiad o luniau o'r digwyddiad, lle gallwch ddarganfod mwy am y gwirfoddolwyr.

  • Stephen Coleman

    Antioch@20

    Steve yw pennaeth y grŵp llywio sydd wedi goruchwylio'r gwaith o drosi 20 Station Road o fod yn gragen o adeilad i ofod sydd bellach yn agored i Gyngor ar Ddyledion, Cyngor ar Fudd-daliadau, siop nwyddau masnach deg a nwyddau wedi'u gwneud â llaw, Clwb Deillion Gogledd Cymru, y Groes Goch (sy'n helpu ffoaduriaid) a lle i Fentrau Creadigol ddysgu mamau a phlant sut i goginio.

    Mae Steve wedi rhoi'n ddiflino o'i amser a'i egni i reoli'r holl waith a wnaethpwyd yn @20: Mae hefyd wedi ysgrifennu ceisiadau grant a llawer o bolisïau a gweithdrefnau sy'n angenrheidiol i gadw’r adeilad ar agor.

  • Tracy Toulmin

    Bayside Radio

    Mae Tracey yn llawn egni a brwdfrydedd ac yn aelod gwerthfawr iawn o dîm Bayside. Mae Tracey yn chwarae rôl mor bwysig yn y gymuned ac mae wedi bod yn allweddol wrth helpu'r orsaf radio gymunedol i godi ei phroffil yn ardal Bae Colwyn, fel bod mwy o bobl leol yn clywed yr hyn rydyn ni'n ei wneud a bod mwy o sefydliadau'r trydydd sector yn elwa o gael eu cynnwys yng ngwaith yr orsaf. Mae hi'n hyrwyddwr newid positif iawn i Fae Colwyn ac mae'n gweithio'n galed i wneud i wirfoddolwyr eraill deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.

  • Dale Davies

    Bayside Radio

    Mae Dale yn un o gyflwynwyr gwirfoddol ieuengaf a mwyaf ymroddedig Radio Bayside. Mae ei sioe yn lle gwych i'r gymuned fwynhau cerddoriaeth a chwmnïaeth ac i glywed am bethau sy'n digwydd ym mywydau pobl leol. Yn ddiweddar treuliodd Dale amser yn helpu ITV ar ei gynhyrchiad I'm A Celebrity...  Get Me Out of Here pan oedd yn cael ei ddarlledu o Gastell Gwrych.

  • Mark Foxwell

    Conwy Mind

    Mae Mark wedi gwirfoddoli i Mind Conwy ers blynyddoedd lawer a dyma’r gwirfoddolwr sydd wedi bod gyda ni ers y cyfnod hiraf. Mae'n ddewis rhagorol a haeddiannol i gael gwobr. Roedd yr amser a dreuliodd yn Llandudno yn y ganolfan galw heibio yn amhrisiadwy i'n gwasanaethau gwirfoddol. Mae'n boblogaidd iawn gyda'i gyd-wirfoddolwyr, staff ac wrth gwrs ein defnyddwyr gwasanaeth. Mae Mark bob amser yn hyblyg ac mae'n aml yn mynd yr ail filltir i helpu i gefnogi'r mudiad.

  • Yma gyda Mark Rose, Cynorthwyydd Cymorth Therapi Iechyd Meddwl Conwy

  • Steph Vaughan & David Makin

    Kind Bay Initiative

    Mae Steph yn wirfoddolwr anhygoel, mae hi'n dod bob dydd Mercher yn ddi-ffael a hithau'n brwydro yn erbyn ei heriau iechyd ei hun. Mae hi mor garedig a thosturiol gyda phawb sy'n dod, yn ogystal â bod yn bobwr gwych! Mae ei theisennau brau yn anhygoel!

    Mae David yn anhygoel, mae'n dod atom bob Dydd Sul yn ddi-ffael ac yn helpu i baratoi'r llysiau ac yn hapus i weithio ei ffordd yn golchi mynydd o lestri budur! Byddem ar goll heb David ac rydyn ni'n ei werthfawrogi gymaint!

  • Billy Roberts

    Ty Hapus Community Centre

    Mae Billy yn casglu rhoddion ond mae hefyd yn helpu i redeg y ganolfan pan fydd y Rheolwr yn absennol. Y llynedd cafodd y Rheolwr ddamwain a bu'n rhaid iddo weithio gartref am bron i 4 mis. Camodd Billy i’r adwy a chadw'r ganolfan ar ei thraed gan ddod i mewn bob dydd i lanhau a sicrhau eu bod yn glynu wrth reolau Covid ac yn gallu agor i ddefnyddwyr. Heb hynny byddem wedi cael trafferth aros ar agor gan fod arnom angen rhywun yno i wneud yn siŵr bod popeth yn rhedeg yn esmwyth ac yn ddiogel.

  • Norman Hughes

    Ty Hapus Community Centre

    Norman sy'n rhedeg y Banc Bwyd i bob pwrpas, mae'n casglu rhoddion, yn rhoi trefn ar y stoc, yn gwirio dyddiadau, yn dosbarthu parseli yn ogystal â helpu o amgylch y Ganolfan Gymunedol lle bynnag y mae angen help.

    Mae Norman wedi byw yn y gymuned hon ar hyd ei oes. Fe wnaeth ymddeol 4 blynedd yn ôl ac mae wedi gwirfoddoli gyda ni byth ers hynny. Mae'n angerddol iawn am y gymuned ac yn ceisio helpu unrhyw un sydd angen help.

  • Gwirfoddolwyr Crest

    Crest Co-operative

    Mae'r ymroddiad a'r gwaith tîm y mae'r gwirfoddolwyr wedi'i ddangos wedi mynd y tu hwnt i unrhyw ddisgwyliad. Mae ein gwirfoddolwyr wedi ein cefnogi ym maes manwerthu, yn yr adran oedolion ag anawsterau dysgu, ar y faniau, yn yr adran drydanol, yn ein hadran gwaith coed, ar y radio, - drwy gydol Crest yn y bôn. Heb yr amser a'r ymroddiad sy'n cael ei roi ni fyddai Crest yn gallu helpu a chefnogi cymaint o deuluoedd ag a wnawn yn ein cymuned. Steve Pugh, y Swyddog Cynhwysiant, yn cael tystysgrif.

  • Gwirfoddolwyr Cyfle Cymru

    Adferiad Recovery

    Mae defnyddwyr gwasanaeth Cyfle Cymru wedi treulio oriau lawer dros y flwyddyn ddiwethaf yn helpu'r Amgueddfa i drawsnewid ei gerddi y tu allan yn ogystal â chasglu sbwriel yn y Sŵ.

  • Debbie Bennett

    Centre of Sign, Sight Sound (COS),

    Mae Debbie wedi bod yn gwirfoddoli gyda ni ers blynyddoedd bellach. Mae'n cefnogi pobl sydd wedi colli eu clyw a allai deimlo'n unig ac yn ynysig, ac mae hi hefyd yn eu cefnogi i fagu hyder i ddefnyddio offer arbenigol sy'n gwella eu byddardod.

  • Lauren Owen

    Centre of Sign, Sight Sound (COS)

    Mae Lauren wedi dechrau gwirfoddoli gyda ni yn ddiweddar.  Mae Lauren newydd ddechrau cefnogi rhywun sy'n teimlo'n ynysig oddi wrth bobl ar wahân i'w theulu a'r gweithwyr proffesiynol sy'n ei gweld hi, ac sydd eisiau sgwrsio â rhywun sy'n gallu rhannu'r byd y tu allan gyda hi.  Mae gan Lauren bersonoliaeth wych sydd bob amser yn barod ei gwên ac mae'n cyd-dynnu'n dda â phawb y mae'n eu cyfarfod.

  • Gwirfoddolwyr Centre of Sign, Sight Sound (COS) gyda'r cydlynydd Kerry Scanlon

  • Diane Woods

    Amgueddfa Llandudno

    Mae Diane yn wirfoddolwr addysg a Gwasanaethau Ymwelwyr. Dechreuodd Diane wirfoddoli gydag Amgueddfa ac Oriel Llandudno yn ystod y misoedd diwethaf. Fodd bynnag, ers hynny mae wedi rhoi popeth i’r amgueddfa. Daeth i'r amgueddfa fel cydlynydd gweithgareddau ac addysgwr, i helpu gyda gweithgareddau plant yn bennaf. Mae Diane wedi ein helpu gyda phrosiectau cymunedol addysgol gyda Choleg Llandrillo a gweithgareddau plant. Mae hi'n creu ei gwersi crefft ei hun, a byddem ar goll hebddi.

  • Hilary Kewley

    Amgueddfa Llandudno

    Mae Hilary yn Swyddog Gwasanaethau Ymwelwyr. Mae Hilary yn mynd yr ail filltir a mwy. Mae'n cynnal ac yn creu dosbarthiadau crefft yn rheolaidd ar ran yr amgueddfa ar gyfer ymwelwyr a grwpiau addysgol. Mae hi'n helpu i ddodrefnu, trefnu ac addurno'r siop anrhegion. Ar ben hynny, mae hi wedi creu casgliad cyfan o ddoliau peg Cymreig i'n hamgueddfa eu gwerthu gyda phob rhodd yn mynd i'r elusen.

  • Soroptimyddion

    Soroptimyddion Llandudno

    Mae aelodau Clwb Soroptimyddion Llandudno a'r Cylch wedi gwirfoddoli mewn amrywiaeth o rolau sydd wedi bod o fudd i'r gymuned leol. Dyma ychydig o fentrau y maent wedi bod yn ymwneud â nhw: Maent yn gweithio gyda BAWSO i gasglu a rhoi nwyddau i ddioddefwyr Caethwasiaeth Fodern; fe wnaethant sefydlu Grŵp Gwrth-Gaethwasiaeth Soroptimyddion Gogledd Cymru i godi ymwybyddiaeth o arwyddion Caethwasiaeth Fodern drwy ymweld â gwestai lleol i godi ymwybyddiaeth gweithwyr y gwestai. Maent wedi sefydlu a threfnu Banc Dillad ar gyfer teuluoedd lleol a theuluoedd o’r Wcráin sy'n cyrraedd Gogledd Cymru. Maent wedi casglu a rhoi nwyddau i'r Lloches i Fenywod leol a'r Banc Bwyd Lleol. Maent wedi casglu topiau poteli plastig i'w hailgylchu ac wedi rhoi 2 goeden i Happy Valley yn ogystal ag ymuno â Chyfeillion Happy Valley i helpu gyda phrosiectau garddio a chasglu sbwriel.

  • Soroptimyddion - Celia Blomeley, Janet Murfin (Cyn-Lywydd Diwethaf Soroptimyddion Llandudno) sy'n cynrychioli'r grŵp

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397