Canolfan Gymunedol Trelogan yn dathlu!
Pentref bach, gwledig yng ngogledd Sir y Fflint yw Trelogan. Ychydig o dan 600 sy’n byw yno. Mae ysgol gynradd i’r 80 o blant a chanolfan gymunedol fodern i’r pentrefwyr. Cyfyngedig yw’r drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal wledig, anghysbell hon ac felly mae’r ganolfan gymunedol yn rhan bwysig o wead cymdeithasol y pentref.
Yn 2020-21, cafodd pwyllgor rheoli Canolfan Gymunedol Trelogan ei ailstrwythuro ac etholwyd nifer o aelodau newydd i gynrychioli grwpiau defnyddwyr. Un o’r tasgau cyntaf oedd cynnal ymgynghoriad ar gryfderau a gwendidau’r ganolfan.
Daeth i’r amlwg ar unwaith bod nifer o broblemau’n wynebu’r drefn newydd, a aeth ati i ddatblygu rhaglen gwella cyfalaf cam wrth gam. Gyda chymorth proffesiynol Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, cafodd cais ei baratoi a’i gyflwyno i banel grantiau Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr ar ddechrau 2022.
Cafwyd grant o £10,000 a dechreuodd y gwaith gwella ar unwaith. Erbyn gwanwyn 2022, roedd holl waith y cam cyntaf wedi’i gwblhau.
Y canlyniad oedd man awyr agored newydd sbon danlli i’n defnyddwyr ‘fengaf, goleuadau arweiniol i ddefnyddwyr hŷn y ganolfan, a gwell giatiau / ffensys i gadw’r safle’n ddiogel.
Ac i goroni’r cyfan, grant micro arall o £665 gan gronfa Gwynt y Môr tuag at ddathliadau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines ym mis Mehefin – ffordd berffaith o ddathlu’r cyfleusterau ar eu newydd wedd!
Mae’r ganolfan wrthi’n cynllunio datblygiadau, manylebau a phrisiau contractwyr ar gyfer yr ail gam. Wedyn bydd cais arall yn cael ei gyflwyno i Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr, sydd wedi ein helpu i weddnewid ein cymuned.
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG