Ar ddechrau 2020, dyfarnwyd £10,000 i Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr i gynnal rhaglen ymwybyddiaeth gymunedol mewn ysgolion, clybiau pêl droed a chlybiau ieuenctid. Darparodd Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth hyfforddiant gwrth-hiliaeth i athrawon a staff cymorth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ym Mhrestatyn, Tywyn, a'r Rhyl, Llanelwy a Bae Colwyn. Bu hefyd yn cynnal gweithdy gwrth-hiliaeth anffurfiol yng Nghlwb Pêl Droed Bwrdeistref Conwy, ac mae mwy o weithdai ar y gweill ar gyfer clybiau pêl droed Llandudno, Bae Colwyn a Phrestatyn. Mae'r un sesiynau wedi cael eu cynnal mewn clybiau ieuenctid lleol ym Mheulwys, Bae Colwyn, Mochdre a Llandudno.

Drwy ei hyfforddiant i athrawon a gweithwyr ieuenctid, nod Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth oedd eu helpu i “ddatblygu eu gwybodaeth eu hunain; adnabod ac ymateb i ddigwyddiadau hiliol; gan gynyddu hyder wrth ddefnyddio terminoleg briodol; a chefnogaeth i ddefnyddio adnoddau gwrth-hiliaeth gyda phobl ifanc”. Nod y gweithdai anffurfiol gyda phobl ifanc mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid oedd addysgu pobl ifanc am hiliaeth (gan gynnwys hiliaeth anymwybodol) a diwylliannau gwahanol, gan roi'r hyder iddynt ymateb i hiliaeth drwy herio'r ymddygiad.

Nod y sesiynau addysg gwrth-hiliaeth hyn yn y pen draw oedd lleihau troseddau casineb ymhlith pobl ifanc a chymunedau Gogledd Cymru. Tynnwyd sylw at lawer o'r ysgolion a'r clybiau a gymerodd ran yn y rhaglen fel lleoliadau delfrydol ar gyfer y sesiynau hyn gan swyddogion cyswllt ysgolion yr heddlu lleol, gweithwyr addysg awdurdodau lleol, a rhieni o ganlyniad i ddigwyddiad hiliol. Mae'r rhaglen ymwybyddiaeth gymunedol wedi rhoi'r adnoddau i athrawon, gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc ymateb yn ddigonol i'r digwyddiadau hiliol hyn pan fyddant yn digwydd. Dywedodd un cyfranogwr “I mi, mae’r sesiwn wedi procio’r meddwl ac mae’n gyfle i ni nawr i ... gynnal y momentwm gyda hyn.”

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397