Am siwrnai - Am lawenydd!

 

Ar ddiwedd 1999, cymerais ddiswyddiad gwirfoddol gan gorff preifat mawr a chwilio am swydd leol i'm cadw i fynd, tra oeddwn i’n chwilio am rywbeth addas ar gyfer yr ychydig flynyddoedd gwaith nesaf.

Fe wnes i ymateb i hysbyseb yn y papur lleol (The North Wales Chronicle) yn hysbysebu swydd weinyddol / derbynfa gydag elusen ym Mae Colwyn. Dyna oedd dechrau fy siwrnai gyffrous a dadlennol i gyda’r 3ydd Sector, a oedd i ddod yn brofiad mor angerddol a gwerth chweil.

Fe gefais i fy syfrdanu'n llwyr o glywed am nifer, ansawdd ac amrywiaeth y sefydliadau elusennol lleol oedd yn bodoli yn sir Conwy. Roeddwn i wedi dod o hyd i fy lle, roeddwn i'n gwybod lle roeddwn i eisiau gweithio, a gyda phobl sy'n ymdrechu bob dydd i wneud pethau'n well i eraill, i'w cymunedau ac i bobl sydd mewn angen. Roeddwn i wedi dod o hyd i’r bobl sy’n ‘gallu gwneud’!

23 o flynyddoedd yn ddiweddarach (a chredwch chi fi, mae wedi gwibio heibio), rydw i wedi dal sawl swydd, i gyd o fewn y sector gwirfoddol; swyddog cyllido, asesydd grantiau, rheolwr grantiau, swyddog cyllid, ac yn olaf Prif Swyddog. Er mai o fewn CGGC oedd hyn yn bennaf, fe fues i am tua 4 blynedd yn gweithio i WCVA (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru). Heb os nac oni bai, dyma'r profiad mwyaf gwerth chweil, heriol, ac, ar adegau, gostyngedig. Rydw i'n falch o'r hyn y mae tîm CGGC wedi'i gyflawni dros y blynyddoedd, gan gynnwys y newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud i'n sefydliad, ein haelodau ac, wrth gwrs, yn y pen draw, i'r bobl yn ein cymunedau ni.

Mae’r amser wedi dod i mi gamu i lawr, a throsglwyddo’r awenau i rywun sydd â’r egni a’r angerdd i barhau â’r siwrnai ymlaen. Rhywun sy’n gweld y weledigaeth ac sydd â’r cryfder a’r ymrwymiad i’r sector i barhau â’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud bob dydd yn CGGC ac rydw i’n falch iawn bod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi penodi’r union berson hwnnw!

…ac i mi? Rydw i'n edrych ymlaen at y bennod nesaf. Mae gen i bethau i'w gwneud, a llefydd i'w gweld! Rydw i’n dechrau gyda blwyddyn ‘fwlch’ ond bod fy mwlch i ar ôl i mi orffen gweithio, ac nid cyn hynny, yn teithio yn Ne Ddwyrain Asia i ddechrau, a phwy a ŵyr ble nesa… Mae’n braf iawn peidio â bod ag agenda!

Rydw i’n mynd i golli’r bobl sy’n ‘gallu gwneud’, ond pwy a ŵyr pryd neu ble y bydda’ i’n ymddangos yn y dyfodol…. mewn rôl wirfoddol wrth gwrs!

Dymunaf y gorau i chi i gyd,

Wendy.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397