Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Nghonwy – Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol – yn lansio yn fuan

Bydd Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol yn cael ei lansio’n fuan a bydd yn gyfle cyffrous i fudiadau cymunedol gyflawni prosiectau ar draws Conwy. Bydd yn cyfrannu at adeiladu ‘Balchder Bro’ a ‘gwneud gwahaniaeth gweladwy’ trwy Flaenoriaeth Buddsoddi Cymunedau a Lle o fewn Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Bydd y gronfa’n ystyried ceisiadau prosiectau ar gyfer pob ymyriad o dan faes Blaenoriaeth Buddsoddi Cymuned a Lle (W1-W15).  Bydd angen i geisiadau prosiectau ddangos sut y byddant yn cyflawni’r canlyniadau cysylltiedig. Gall prosiectau wneud cais am hyd at £250,000 o grant gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a rhaid i bob prosiect fod wedi’i gwblhau erbyn tymor yr hydref 2024.

Bydd canllawiau pellach ar gael pan fydd y gronfa'n cael ei lansio’n ffurfiol yn haf 2023. Er mwyn paratoi, dylai darpar ymgeiswyr ddechrau ystyried rŵan pa mor gydnaws yw eu prosiect ag ymyriadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar gael ar ein tudalen we – dyma’r ddolen:  Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Conwy – Cronfeydd Allweddol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Bydd yna hefyd ‘Gronfa Allweddol Cefnogi Busnes Lleol’ a ‘Chronfa Allweddol Pobl a Sgiliau’.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397