Rheoli anawsterau ariannol yn eich elusen sy'n deillio o bwysau costau byw

Charity Commission

Mae'r Comisiwn Elusennau yn cydnabod bod nifer o elusennau yn wynebu amgylchiadau anodd o ganlyniad i gostau sy'n cynyddu'n gyflym. Gall hyn gynnwys eu llif arian eu hunain ond hefyd pryder am y rhai y maent yn eu gwasanaethu a'u staff eu hunain sy'n wynebu pwysau costau byw. Mae rhai elusennau hefyd yn gweld mwy o alw, yn enwedig elusennau sy'n darparu gwasanaethau i bobl mewn angen. Gall rhoddwyr hefyd fod yn teimlo cyfyngiadau ariannol, gan arwain at lai o incwm i rai elusennau.

Gall yr heriau ariannol hyn gael effaith fawr ar elusennau a'r rhai sy'n dibynnu arnynt. Mae’r canllaw hwn ar gyfer ymddiriedolwyr, yn enwedig ymddiriedolwyr elusennau llai, a all fod angen cymorth pan fyddant yn wynebu penderfyniadau anodd am sefyllfa ariannol eu helusen. Nid yw'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â materion ehangach y gall y rhai yn yr elusen eu hwynebu, megis caledi staff, ond mae canllawiau ar gael i ymddiriedolwyr gan sefydliadau eraill i'w cefnogi gyda hyn.

http://lnnk.in/gidN

 

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397