Cronfa Gymunedol Gwastadeddau Rhyl
Cronfa Gymunedol Gwastadeddau Rhyl
Beth yw Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Alltraeth Gwastadeddau Rhyl?
Mae Fferm Wynt Alltraeth Gwastadeddau Rhyl, a weithredir gan RWE Renewables UK Limited wedi darparu cyllid ar gyfer prosiectau cymunedol ar draws rhannau o arfordir Gogledd Cymru.
Fe lansiodd y gronfa yng Nghonwy yn 2009 gyda lefel sylfaenol o £75,000 ac mae wedi’i gysylltu mynegai bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Bydd y gronfa ar gael bob blwyddyn drwy gydol oes weithredol y fferm wynt. Yng Nghonwy mae'r gronfa'n cefnogi cymunedau o Fochdre yn y gorllewin hyd at Fae Cinmel yn y dwyrain. Mae'r gronfa nawr yn cael ei gweinyddu gan CGGC ar ran o Fferm Wynt Alltraeth Gwastadeddau Rhyl.
Bu ceisiadau i’r gronfa yn cael eu asesu gan banel gwneud penderfyniadau o gynrychiolwyr cymunedol.
Mae'r gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau am grant o £2,000 hyd at £10,000. Bydd yn gallu ariannu'r prosiectau cyfalaf a refeniw, a bydd angen i gefnogi cyflwyno o leiaf un o bedair thema y gronfa:
- Cryfhau eich gymuned ar gyfer y dyfodol
- Cynnwys eich cymuned ac adeiladu ysbryd cymunedol
- Wella bywydau pobl lleol
- Creu cyfleusterau lleol mwy dichonadwy
Hyd yn hyn, mae'r gronfa gymunedol alltraeth Gwastadeddau'r Rhyl wedi dyfarnu 26 o geisiadau gwerth cyfanswm o dros £160,000. Mae ystod eang o brosiectau, o weithdai cymunedol bach i gostau staff/gweinyddol a gwaith adeiladu / adnewyddu.
Isod mae rhestr diweddar o'r grwpiau llwyddianus:-
- Vision Support - Cyfraniad o £3,000 tuag at uned wybodaeth symudol newydd
- Siop Cyngor ar Fudd Daliadau - £9,504 tuag at brosiect budd daliadau i bobl o oedran pensiwn
- Sgowtiaid Cylch Conwy - Cyfraniad o £3,000 tuag at bws mini newydd 16-sedd
- Dangos y Cerdyn Coch i Hilliaeth - Cyfraniad o £5,880 tuag at raglen ymwybyddiaeth cymunedol
Am restr gyflawn o geisiadau a ddyfarnwyd hyd yn hyn, cliciwch ar y linc isod:
Chwefror 2021 Cylchlythyr
Dylai pob cais cefnogi thema drawsbynicol y gronfa:
- Cyflwyno Gwerth arian
Lawrlwythwch y ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd yma:
Cysylltwch â ni am drafodaeth gychwynnol a ffurflen gais. Am fwy o wybodaeth darllenwch ein tudalen cwestiynau cyffredin yma, neu cysylltwch Aled Roberts ar on Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 01492 523845
Mae Fferm Wynt Alltraeth Gwastadeddau Rhyl yn cael ei weithredu gan RWE Renewables UK oddi ar arfordir Gogledd Cymru. Mae'n bartneriaeth rhwng RWE Renewables UK, Greencoat a'r Grŵp Buddsoddi Gwyrdd.