Prosiectau a Gweithgareddau yn canolbwyntio ar Awtistiaeth wedi’u hariannu gan Awdurdodau Lleol Conwy a Sir Ddinbych

Mae Awdurdodau Lleol Conwy a Sir Ddinbych wedi dyrannu rhywfaint o gyllid yn benodol i gefnogi prosiectau a gweithgareddau lleol sydd o fudd i bobl awtistig a / neu eu teuluoedd.

Er nad yw’r gronfa wedi’i chyfyngu i sefydliadau’r trydydd sector, rhoddir blaenoriaeth i weithgareddau a phrosiectau’r trydydd sector ac i’r sefydliadau hynny sydd â phrofiad o ddarparu cefnogaeth / gweithgareddau i / ar gyfer pobl awtistig.

Os hoffech wneud cais am gyllid o hyd at £7,500, darllenwch y canllawiau llawn a chyflwynwch eich cais erbyn 30/10/23.

Mae rhagor o fanylion, a chanllawiau a ffurflen gais ar gael yn y ddogfen ynghlwm.

Anfonwch unrhyw ymholiadau at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Ffurflen Gais

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397